Telerau ac Amodau |
|
Mae'n bwysig eich bod yn darllen y telerau ac amodau hyn yn ofalus am fod eich defnydd o wefan Blodwen yn amodol arnynt. Cyflwyniadau ac Amodau: Diolch am ymweld â Blodwen, sef enw masnachu Blodwen [a'i Meibion] Cyfyngedig (rhif cofrestredig 06838806 a rhif TAW y mae ei swyddfa gofrestredig yn Tŷ y Mor, Aberporth, Cardiganshire, SA432EW ("Blodwen", "hi", "ei "). Mae Blodwen yn darparu gwasanaethau manwerthu a gwasanaethau eraill ar-lein ar eich cyfer drwy'r wefan hon a darperir y gwasanaethau ar-lein hynny ar sail y telerau ac amodau hyn. Nodwch y gellir eu newid o bryd i'w gilydd heb roi rhybudd i chi a thybir eich bod wedi derbyn unrhyw newidiadau os ydych yn parhau i ddefnyddio'r wefan hon ar ôl i unrhyw newidiadau gael eu cyhoeddi arni. Pan fyddwch yn defnyddio gwefan Blodwen neu unrhyw un o wasanaethau ar-lein Blodwen cewch eich cynghori bod canllawiau neu reolau arbennig yn gymwys. Oni nodir fel arall, mae'r canllawiau neu'r rheolau hyn yn rhan o'r telerau ac amodau hyn. Mae'r telerau ac amodau hyn yn gymwys i bob defnyddiwr (gan gynnwys porwyr achlysurol) p'un a yw'r broses gofrestru wedi'i chwblhau ai peidio. Drwy ddefnyddio'r wefan hon rydych yn nodi eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn, ond nid ydynt yn effeithio ar eich hawliau statudol. Os ydych yn ansicr ynglŷn ag unrhyw agwedd ar y telerau ac amodau hyn dylech gysylltu â thîm gwasanaeth cwsmeriaid Blodwen cyn archebu drwy ffonio 01239 622828 neu anfon e-bost at customerservices@blodwen.com. Archebu: Drwy archebu cynnyrch oddi wrth Blodwen, rydych yn gwneud cynnig i Blodwen i brynu'r cynhyrchion a nodir yn eich archeb o dan y telerau ac amodau hyn. Ar ôl i chi archebu bydd Blodwen yn anfon cadarnhad electronig atoch fod eich archeb wedi dod i law, ond nid yw hwn yn gadarnhad bod eich cynnig i brynu nwyddau wedi cael ei dderbyn. Dim ond ar ôl i archeb gael ei derbyn, ei phrosesu a'i hanfon atoch y bydd contract rhyngoch chi a Blodwen i werthu'r nwyddau a ddisgrifir ar eich archeb. Caiff Blodwen dderbyn neu wrthod archeb yn ôl ei disgresiwn. Os bydd Blodwen yn derbyn eich archeb bydd yn eich hysbysu ei bod yn ei derbyn ("Neges Dderbyn") drwy e-bost ac yn cadarnhau'r pris. Ar yr un pryd bydd Blodwen yn eich hysbysu o rif adnabod (y "Rhif Adnabod") eich archeb a dylech ei ddyfynnu bob tro y byddwch yn cysylltu â Blodwen wedi hynny. Bydd eich cerdyn credyd/debyd yn cael ei awdurdodi pan fydd eich archeb wedi'i gwneud a'i phrosesu, ond ni chodir tâl arnoch am y cynhyrchion nes eu bod wedi cael eu hanfon atoch. Ar hyn o bryd mae Blodwen yn derbyn Visa, Mastercard, Delta a Switch a chynhelir ein holl drafodion mewn punnoedd sterling. Disgrifiadau o gynhyrchion a phrisiau: Nid yw cynhyrchion Blodwen wedi'u masgynhyrchu ac mae llawer wedi'u gwneud â llaw gan ddefnyddio defnyddiau naturiol. O ganlyniad mae cynhyrchion unigol yn aml yn unigryw. Mae'n ddigon posibl na fydd y cynnyrch a gewch yn union yr un fath â'r cynnyrch a welir yn y llun ar y wefan hon na'r hyn a ddarparwyd yn flaenorol neu fel rhan o'r un llwyth. Er bod Blodwen yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod pob llun, disgrifiad, manyleb a darluniad ar y wefan hon yn gywir, dim ond canllaw ydynt, er mwyn rhoi amcan gyffredinol o'n cynhyrchion, a chadwn yr hawl i'w newid. Nid ydynt yn rhan o'r telerau ac amodau hyn. Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod y lliwiau yn cael eu hatgynhyrchu mor gywir â phosibl, ond ni allwn reoli'r materion technegol sy'n ymwneud â dangos delweddau drwy ddefnyddio a gweithredu'r gwahanol borwyr, amgylcheddau pori a monitorau yr edrychwch arnynt i weld y wefan. Mae'r prisiau a ddyfynnir ar y wefan hon yn rhai dangosol yn unig a gallant newid. Mae pob pris ar y wefan hon yn cynnwys TAW y Deyrnas Unedig a phecynnu ond nid ydynt yn cynnwys tâl dosbarthu. Cliciwch yma i weld taliadau dosbarthu Blodwen. Nid oes rhwymedigaeth ar Blodwen i ddarparu unrhyw gynnyrch am bris anghywir (is) hyd yn oed ar ôl iddi anfon Neges Dderbyn atoch, os yw'r camgymeriad ynglŷn â phris yn amlwg ac yn ddigamsyniol ac y gallech yn rhesymol fod wedi ei adnabod fel cambrisio. Ni ddarperir nwyddau i'w hailwerthu. Argaeledd stoc: Mae Blodwen yn gwneud pob ymdrech i ddal stoc lle y bo modd, ond mae cynhyrchion Blodwen yn cael eu gwneud gan grefftwyr lleol ac o ganlyniad dim ond mewn niferoedd bach neu gyfyngedig y mae llawer ohonynt ar gael. Os na fydd eitem ar gael, cewch eich hysbysu wrth archebu. Mae croeso i chi gysylltu â thîm gwasanaeth cwsmeriaid Blodwen i gael rhyw amcan ynghylch pryd y disgwylir i'r eitem fod ar gael a gall Blodwen wedyn eich hysbysu pryd y bydd yn debygol o fod ar gael. Dosbarthu: Bydd Blodwen yn dosbarthu cynhyrchion a archebir gennych drwy wasanaeth cludo neu bost i'r cyfeiriad dosbarthu a rowch. Bydd dosbarthu eitem yn dibynnu a yw ar gael ac ni fydd amser yn elfen hanfodol. Os bydd oedi, bydd Blodwen yn eich hysbysu ac yn rhoi amser dosbarthu newydd i chi. Pan fydd Blodwen yn prosesu'ch archeb, bydd hefyd yn eich hysbysu os na fydd unrhyw gynhyrchion ar gael. Cliciwch yma i weld costau dosbarthu Blodwen. Pan gaiff parsel ei ddosbarthu gofynnir i chi lofnodi fel prawf eich bod wedi'i dderbyn. Os nad ydych gartref, caiff cerdyn ei roi drwy'ch drws yn nodi sut y gallwch gael eich parsel. Bydd risgiau sy'n gysylltiedig â cholli cynhyrchion, difrod a theitl ynddynt yn trosglwyddo i chi ar adeg dosbarthu. Dylech archwilio'r cynhyrchion mor fuan ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddynt gael eu dosbarthu. Cyfyngiadau ar allforio: Mae cynhyrchion Blodwen wedi'u hanelu at breswylwyr y DU yn unig. Er bod Blodwen yn barod i ddarparu cynhyrchion i gwsmeriaid y tu allan i'r Deyrnas Unedig nid yw Blodwen yn rhoi gwarant, boed yn warant benodol neu ymhlyg, fod defnyddio'r wefan hon neu archebu drwy'r wefan hon y tu allan i'r DU yn cydymffurfio ag unrhyw gyfreithiau neu reoliadau sy'n gymwys. Yn unol â hynny, ni chynigir i chi unrhyw gynhyrchion na hyrwyddiadau nas caniateir o dan eich cyfraith leol. Caiff taliadau dosbarthu y tu allan i'r DU eu dyfynnu ar sail unigol. Mae'n rhaid i chi gydymffurfio â holl gyfreithiau a rheoliadau cymwys y wlad y bwriedir dosbarthu'r cynhyrchion iddi. Ni fydd Blodwen yn atebol am unrhyw achos o dorri'r cyfryw gyfreithiau gennych. Os archebwch nwyddau ar y wefan hon i'w dosbarthu y tu allan i'r DU, efallai y bydd yn rhaid talu tollau a threthi mewnforio y gellir eu codi pan fydd y llwyth yn cyrraedd y wlad benodedig. Chi fydd yn gyfrifol am dalu'r cyfryw dollau a threthi. Nid oes gan Blodwen reolaeth dros y taliadau hyn ac ni all ragweld beth fydd y taliadau. Cysylltwch â'ch swyddfa dollau leol am ragor o wybodaeth cyn archebu. Dychwelyd nwyddau, yr hawl i ddileu archeb a chyfyngiadau: Cliciwch yma i ddarllen polisi Blodwen ynglŷn â dychwelyd nwyddau. Os ydych yn gwsmer mae gennych hawl hefyd i ddileu'ch archeb drwy hysbysu Blodwen yn ysgrifenedig o fewn saith diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y dosbarthwyd y cynnyrch. Mae gan bob cwsmer sy'n dileu archeb o dan y "cyfnod ailfeddwl" statudol hwn yr hawl i gael ad-daliad gan gynnwys costau dosbarthu, mae'n ofynnol i'r cwsmer ddychwelyd y cynhyrchion perthnasol at Blodwen a bydd yn gyfrifol am gostau eu dychwelyd. Eich unig hawl mewn perthynas â chynnyrch diffygiol yw ad-daliad, cynnyrch cyfnewid neu drwsio gan Blodwen, heblaw am farwolaeth neu anaf personol neu rwymedigaethau eraill na ellir eu cyfyngu o dan y gyfraith. Ni fydd atebolrwydd llwyr Blodwen mewn perthynas ag unrhyw gynnyrch a werthir i chi i'r graddau y caniateir hyn o dan y gyfraith yn fwy na'r swm a dalwyd i Blodwen am y cynnyrch gennych. Cofrestru: Drwy gwblhau'r broses gofrestru, rydych yn datgan eich bod o leiaf yn ddeunaw mlwydd oed neu'n blentyn dan oed sydd wedi cael caniatâd rhiant i ddefnyddio'r wefan hon. Noder: Argymhellir y dylai pob plentyn dan oed drafod y telerau ac amodau hyn gyda'i rieni cyn cwblhau'r broses gofrestru. Yn gyfnewid am ddefnyddio'r wefan hon a chael budd gwasanaethau ar-lein Blodwen, cytunwch i: roi gwybodaeth wir, gywir, gyfredol a chyflawn amdanoch chi lle y bo angen yn y ffurflen gofrestru, a sicrhau bod y wybodaeth hon yn parhau i fod yn gywir, yn gyflawn ac yn gyfoes. Ar ôl i chi gwblhau'r broses gofrestru, byddwch wedi nodi enw defnyddiwr (cyfeiriad e-bost) a chyfrinair. Mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw'ch enw a'ch cyfrinair mewn man diogel ac nad ydych yn eu datgelu i neb gan mai chi fydd yn gwbl gyfrifol am bob gweithgarwch sy'n digwydd o dan eich enw a'ch cyfrinair. Eich cyfrifoldeb chi fydd hysbysu Blodwen ar unwaith am unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o'ch enw a'ch cyfrinair neu unrhyw achos arall o danseilio diogelwch cyn gynted ag y byddwch yn dod i wybod amdano. Cysylltiadau Allanol: Gall Blodwen, neu drydydd partïon, gynnig dolenni i wefannau neu adnoddau eraill. Fe'u darperir er cyfleuster yn unig ac nid ydym yn cymeradwyo cynnwys y gwefannau hynny. Ni fydd Blodwen yn gyfrifol am argaeledd nac arferion preifatrwydd y gwefannau hynny, ac ni fydd Blodwen yn atebol mewn unrhyw ffordd am unrhyw golled neu ddifrod sy'n dod i'ch rhan drwy ddefnyddio'r gwefannau hynny. Os penderfynwch edrych ar wefannau trydydd parti cysylltiedig byddwch yn gwneud hynny ar eich menter eich hun. Indemniad: rydych yn cytuno i indemnio Blodwen a'i digolledu rhag unrhyw golled, hawliad, achos neu archeb am dâl (gan gynnwys unrhyw ffioedd cyfreithiol yr aed iddynt mewn cysylltiad â'r cyfryw golled, hawliad, achos neu archeb am dâl) o ganlyniad i'ch camddefnydd o'r wefan hon neu wasanaethau ar-lein Blodwen neu o ganlyniad i dorri'r telerau ac amodau hyn. Diogelwch rhag Firysau a Chydweddoldeb: er bod rhai camau wedi cael eu cymryd i ganfod firysau cyfrifiadurol a sicrhau diogelwch, ni all Blodwen warantu bod y wefan yn ddi-firws ac yn ddiogel. Ni fydd Blodwen yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o ganlyniad i unrhyw firws neu achos o danseilio diogelwch. Nid yw Blodwen yn rhoi unrhyw warant ynglŷn â chydweddoldeb y wefan â'ch systemau cyfrifiadurol, eich meddalwedd na'ch caledwedd. Rydych yn defnyddio'r wefan hon a gwasanaethau ar-lein Blodwen ar eich menter eich hun. Atal a Therfynu: darperir y wefan hon a gwasanaethau ar-lein Blodwen ar sail "fel ag y mae" a lle y bo ar gael. Caiff Blodwen yn ôl ei disgresiwn ei hun atal a/neu derfynu cofrestriad neu ddefnydd o'r wefan hon neu wasanaethau ar-lein Blodwen ar unrhyw adeg ac ni fydd Blodwen yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw golled neu ddifrod oherwydd y cyfryw benderfyniad i atal neu derfynu cofrestriad neu ddefnydd. Fel arfer, dim ond os nad ydych wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein Blodwen ers peth amser neu os cred Blodwen eich bod wedi gweithredu'n anghyson â'r telerau ac amodau hyn y byddai Blodwen yn gwneud hynny. Fodd bynnag, efallai y bydd rhesymau eraill pam y byddai Blodwen yn atal a/neu derfynu cofrestriad neu ddefnydd. Gwybodaeth am Nodau Masnach: Gall Blodwen a logos Blodwen yn nodau masnach. Rydych yn cytuno i beidio â'u harddangos na'u defnyddio mewn unrhyw fodd heb gael ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Datganiad Preifatrwydd: Caiff Blodwen gasglu a phrosesu gwybodaeth sy'n ymwneud â chi fel y'i disgrifir yn ein Datganiad Preifatrwydd, y gellir ei weld drwy glicio yma. Cyffredinol: os ceir bod unrhyw un o'r telerau ac amodau hyn yn annilys yna ni fydd y ddarpariaeth honno yn effeithio ar ddilysrwydd y darpariaethau eraill a fydd yn parhau i fod yn gwbl orfodadwy. Os bydd Blodwen yn ildio unrhyw un o'r telerau ni thybir bod hynny yn ildiad parhaus ac ni thybir bod Blodwen yn ildio unrhyw un o'r telerau eraill. Ni chaniateir i chi atgynhyrchu, gwerthu na defnyddio unrhyw ran o'r wefan hon na gwasanaethau ar-lein Blodwen at unrhyw ddiben masnachol. Ni fydd dim un o'r telerau ac amodau hyn yn orfodadwy o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 gan unrhyw drydydd parti. Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr a byddant yn ddarostyngedig i awdurdodaeth anghyfyngedig y Llysoedd yng Nghymru a Lloegr. Am wybodaeth gyfredol am wasanaethau Blodwen a phob cyfleuster cymorth neu os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r wefan hon, gwasanaethau Blodwen neu unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r telerau ac amodau hyn, cysylltwch â ni drwy ffonio 01239 622828, anfon e-bost at customerservice@blodwen.com neu ysgrifennu atom yn Gwasanaethau Cwsmeriaid Blodwen [a’i Meibion ] Cyfyngedig, customerservice@blodwen.com.
|












