Sut i Archebu

Dyma gamau'r broses archebu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cofiwch gysylltu â ni unrhyw bryd yma.

1. Yn gyntaf, dewiswch adran o'r bar llwyd uchod. Bydd dewislenni'n ymddangos a fydd yn rhestru pob casgliad o eitemau o fewn adran.

2. Dewiswch gasgliad a chewch eich tywys i'r casgliad hwnnw.
Byddwch yn gweld llun sy'n rhoi trosolwg o'r casgliad gyda chrynoluniau o gynhyrchion penodol oddi tano. Os yw'r casgliad yn un mawr, efallai y bydd angen i chi sgrolio gan ddefnyddio'r botwm saeth ar ochr y llun hwn i weld cynhyrchion eraill.

3. Cliciwch ar y cynnyrch rydych yn ei hoffi. Cewch eich tywys i dudalen stori'r cynnyrch, a fydd yn rhoi gwybodaeth am y gwneuthurwr. Yma, cewch weld cynhyrchion eraill gan y gwneuthurwr hefyd.
Bydd y cynnyrch a ddewiswyd gennych yn parhau i ymddangos ar waelod ochr dde'r dudalen fel cryno-lun. Drwy glicio arno eto, cewch eich tywys i'r dudalen benodol i'r cynnyrch - ac yma gallwch ddewis meintiau, niferoedd ac amryw bethau eraill.

 

 

4. Cliciwch ar 'Ychwanegu i'r Fasged', a gallwch naill ai barhau i siopa neu dalu am eich nwyddau.

5. Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd ar y sgrîn, i gwblhau eich trafodyn a fydd yn gofyn i chi gofrestru, nodi manylion dosbarthu, nodi manylion talu a chadarnhau'r holl fanylion. 

6. Bydd cadarnhad o'r archeb yn cael ei anfon atoch yn syth, ac yna byddwch yn derbyn cadarnhad bod eich nwyddau ar eu ffordd.