Cadw Gwenyn a Mêl Pur Cymreig

Mae pobl wedi cadw gwenyn a chasglu mêl yng Nghymru ers cyn cof.

Ysgrifenodd Rhigyfarch, yr ysgolhaig a'r athro o'r 10fed Ganrif, yn ei lyfr Vita Dauidis (Bywyd Dewi Sant) am fynach a hwyliodd o Iwerddon i Gymru gyda'r haid gyntaf o wenyn ar gyfer y wlad ar ben blaen y llong.

Mae gan Cyfreithiau Hywel Dda (12fed ganrif), un o Frenhinoedd Cymru - a fuodd yn gyfrifol am system gyfreithiol unffurf gyntaf y wlad - draethodau am heidiau gwahanol a'i gwerth, ac yn amodi dirwyon am ddwyn mêl.

'Roedd mêl, ac yn olrhain hynny hefyd medd, a oedd yn cael ei uchelbrisio am ei nodweddion meddygol a meddwol, yn aml yn cael eu cynnwys mewn barddoniaeth gan feirdd y Canol Oesoedd, yn enwedig gan Taliesyn - un o feirdd cynnar Cymru o'r 5ed Ganrif. 'Roedd cychod gwenyn yn cael eu crybwyll hefyd, fel anrhegion perffaith i gyflwyno i noddwyr gan ffrindiau.

Yn draddodiadol yng Nghymru, gwnaed cychod gwenyn o wiail, gwellt a mieri a ddewiswyd yn ofalus. Defnyddiwyd y deunyddiau hyn i greu costenni gwenyn crefftus a fyddai'n cael eu gosod mewn mannau cysgodol i warchod y gwenyn rhag yr elfennau.