Datganiad Preifatrwydd |
|
Mae'r datganiad preifatrwydd hwn yn amlinellu sut y bydd Blodwen yn storio ac yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi. Mae'r wefan hon yn defnyddio meddalwedd gwasanaethau diogel i ddiogelu'ch gwybodaeth pryd bynnag y byddwch yn archebu nwyddau. Mae'r feddalwedd hon yn amgryptio'r holl wybodaeth a fewngofnodwch cyn i chi ei hanfon atom er mwyn lleihau'r risg y caiff rhywun arall afael arni cyn i'r wybodaeth ein cyrraedd. Mae Blodwen hefyd yn dilyn gweithdrefnau diogelwch fel sy'n ofynnol o dan gyfraith diogelwch data y DU (Deddf Diogelu Data 1998) i ddiogelu'r wybodaeth y bydd Blodwen yn ei storio amdanoch chi rhag mynediad anawdurdodedig. Beth mae Blodwen yn ei gasglu Mae Blodwen yn casglu'r wybodaeth ganlynol: Lle rydych yn archebu cynhyrchion, eich enw, manylion cyswllt a gwybodaeth bilio, gwybodaeth am drafodion a cherdyn credyd a rhif ffôn. Pan fyddwch yn cofrestru i gael ein cylchlythyr neu fanylion am gynigion neu gynhyrchion, eich cyfeiriad e-bost a'ch enw. Gallwch hefyd roi mwy o wybodaeth amdanoch chi a'ch teulu i Blodwen er mwyn i'r manylion am gynigion a chynhyrchion y mae Blodwen yn eu hanfon atoch fod yn fwy addas i'ch amgylchiadau. Os rhowch wybodaeth am aelod o'ch teulu neu unrhyw un arall heblaw amdanoch chi eich hun i Blodwen, dylech ddweud wrthynt gyntaf a sicrhau eu bod yn fodlon i chi roi'r wybodaeth. Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis, sef rhaglenni sy'n casglu gwybodaeth ychwanegol. Am ragor o wybodaeth gweler, Sut mae Blodwen yn Defnyddio Cwcis isod. Beth mae Blodwen yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth Mae angen y wybodaeth hon ar Blodwen i ddeall eich anghenion a rhoi gwell gwasanaeth i chi, ac yn benodol am y rhesymau canlynol:
Cadw cofnodion mewnol. Dadansoddi'r defnydd a wneir o wefan Blodwen. Gwella cynhyrchion a gwasanaethau Blodwen. Cysylltu eto â phobl sydd wedi prynu nwyddau a werthir ar ein gwefan, drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy'r post, fel rhan o weithdrefnau gofal cwsmeriaid Blodwen. Anfon e-bost hyrwyddol, gyda'ch caniatâd, ynglŷn â chynhyrchion newydd, cynigion a gwasanaethau arbennig neu wybodaeth arall am Blodwen a chwmnïau trydydd parti detholedig a all fod o ddiddordeb i chi, yn ein barn ni. Gallwch dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy glicio yma. Rhoi'ch rhif ffôn i wasanaeth cludo os gofynnwch i ni wneud hynny. Gyda'ch caniatâd, caiff Blodwen hefyd o bryd i'w gilydd ddefnyddio'ch gwybodaeth i gysylltu â chi at ddibenion ymchwil i'r farchnad. Caiff Blodwen gysylltu â chi drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy'r post. Gyda phwy y bydd Blodwen yn rhannu'r wybodaeth Pan fyddwch yn defnyddio'r wefan hon ac nad ydych wedi dweud fel arall, rydych yn cytuno y caiff Blodwen ddefnyddio a datgelu'ch gwybodaeth bersonol at y dibenion ac yn y modd a nodir yn y datganiad hwn. Ni fydd Blodwen yn gwerthu'ch gwybodaeth bersonol, na'i dosbarthu na'i phrydlesu i drydydd partïon ac eithrio is-gwmnïau a rhiant-gwmni Blodwen neu fusnes olynol Blodwen oni chawn eich caniataid neu oni fydd yn ofynnol i ni ei datgelu o dan y gyfraith. Caiff Blodwen ddatgelu'ch gwybodaeth bersonol i ddarparwyr gwasanaethau Blodwen sy'n ein helpu i weithredu'r wefan (er enghraifft, drwy weinyddu neu gynnal y wefan neu, gyda'ch caniatâd, drwy anfon gwybodaeth hyrwyddo atoch), ond dim ond ar ein rhan ni ac o dan amodau llym cyfrinachedd a diogelwch y byddant yn gweithredu. Cadarnhau a chywiro'ch gwybodaeth Cewch ofyn am fanylion gwybodaeth bersonol sydd gan Blodwen amdanoch chi o dan tal Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd yn rhaid talu ach, na fydd yn fwy na £10. Os hoffech gael copi o'r wybodaeth amdanoch chi, ysgrifennwch at Blodwen Cyfyngedig, Parc House, Parc Teifi, Aberteifi, Ceredigion SA431EW neu anfonwch e-bost at customerservices@blodwen.com. Os credwch fod unrhyw wybodaeth amdanoch sydd gan Blodwen yn anghywir neu'n anghyflawn, ysgrifennwch at Blodwen mor fuan â phosibl yn yr un cyfeiriad neu anfonwch e-bost. Bydd Blodwen yn cywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir. Sut y bydd Blodwen yn defnyddio cwcis. Mae gwefan Blodwen yn defnyddio cwcis. Darn o destun sy'n gofyn caniatâd i gael ei roi ar yriant caled eich cyfrifiadur yw cwci. Os bydd eich porwr yn derbyn cwcis, bydd yn ychwanegu'r testun hwnnw mewn ffeil fach. Mae cwcis yn helpu i ddadansoddi traffig ar y we neu maent yn gadael i ni wybod pryd rydych yn edrych ar ein gwefan. Mae cwcis yn caniatáu i gymwysiadau gwe ymateb i chi fel unigolyn. Mae cymhwysiad gwe yn gallu teilwra ei weithrediadau at eich anghenion, eich hoff bethau a'ch cas bethau drwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau. Er enghraifft, pan fyddwch yn edrych ar y wefan hon, mae cwci yn ei gwneud yn haws i siopa drwy gofio'ch manylion a'u cyfleu i'r wefan fel nad ydych yn gorfod eu mewngofnodi bob tro. Mae Blodwen yn defnyddio cwcis i symleiddio'r prosesau siopa ac rydym hefyd yn defnyddio cwcis cofnodi traffig er mwyn gweld pa dudalennau a ddefnyddir. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data am draffig ar dudalennau gwe a gwella ein gwefan er mwyn ei theilwra at anghenion cwsmeriaid. Os gwrthodwch roi caniatâd i dderbyn cwcis cyfyngir ar nodweddion gwefan Blodwen a'r ffordd y mae'n gweithredu i chi. Gallwch newid Gosodiad eich Rhyngrwyd i "galluogi cwcis". Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein helpu i ddarparu gwell gwefan i chi, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sy'n ddefnyddiol i chi a pha rai nad ydynt yn ddefnyddiol. Mae Blodwen yn gwybod bod rhai pobl yn poeni am gwcis, ond cred Blodwen fod y budd a gawn o'u defnyddio'n briodol yn werthfawr. Cewch osod eich porwr gwe (er enghraifft, Microsoft Internet Explorer neu Netscape navigator) i'ch hysbysu am geisiadau i osod cwcis neu wrthod cwcis yn gyfan gwbl. Gallwch hefyd ddileu'r ffeiliau sy'n cynnwys cwcis - caiff y ffeiliau hynny eu storio fel rhan o'ch porwr gwe.
|












