Sêl Blwyddyn Newydd arbennig

Blwyddyn Newydd Dda i bob un o ffrindiau Blodwen!

Wrth i ni groesawu'r flwyddyn newydd gallwn hefyd fwynhau a dathlu nifer o'r hen arferion a gynhelir ledled y wlad - mae sawl un ohonynt yn dyddio nôl i'r oes baganaidd gyn-Gristnogol, yn cynnwys :-

  • 'Hela'r Dryw' - traddodiad o gaethiwo dryw mewn cawell, yna mynd o dŷ i dŷ i ofyn i'r trigolion dalu am y fraint o gael cipolwg ar yr aderyn bach. 'Roedd hyn i ddangos fod y paganiaid yn credu y gallai'r drefn naturiol gael ei throi wyneb ei waered yn y dyddiau naill ochr i'r diwrnod byrraf - gyda'r dryw'n symbol o'r creadur lleiaf, mwyaf di-nod yn cael ei drawsnewid yn greadur pwysig dros ben.
  • 'Gwasaela' - pan fyddai powlenni siâp rhyfedd llawn cwrw a pherlysiau yn cael eu cario o dŷ i dŷ, gyda phawb yn cynnig llwncdestun gan ddymuno cynaeafau ffrwythlon yr hydref canlynol.
  • 'Y Fari Lwyd' - pan gai penglog ceffyl ei addurno â rhubanau a'i gario o amgylch y tai yn herio'r perchnogion i gymryd rhan mewn rhyw dalwrn enllibus anffurfiol!
  • Felly, wrth i ni ymfalchio yn yr hen draddodiadau hyn, mwynhewch ein Sêl Blwyddyn Newydd arbennig. Mwynhewch!

    Blodwen - yn cyflwyno crefft i'ch bywyd.