Cymorth a Chwestiynau Cyffredin

Os na allwch ddod o hyd i ateb i'ch cwestiwn isod, cysylltwch â ni yma :
customerservices@blodwen.com neu ffoniwch 01239 622828.

Sut ydw i'n archebu?
Yn gyntaf, dewiswch un o 'adrannau' Siop Bentre Blodwen o'r bar llywio ar frig y dudalen, yna bydd dewislenni'n ymddangos a fydd yn rhestru pob casgliad mewn adran. Dewiswch gasgliad a chewch eich tywys i'r casgliad hwnnw a chrynoluniau o gynhyrchion penodol oddi tano. Cliciwch ar y cynnyrch rydych yn ei hoffi ac yna cewch eich tywys i dudalen stori'r cynnyrch hwnnw. Drwy glicio arno eto gallwch benderfynu ar eich cynnyrch ac yna ei 'Ychwanegu i'r Fasged'. I gwblhau eich archeb, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn.
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma i weld Tudalen Blodwen ar Sut i Archebu.

Sut mae dychwelyd eitem?
Yn gyntaf, cysylltwch â gwasanaeth cwsmeriaid Blodwen i ddweud wrthym pam eich bod yn dymuno dychwelyd yr eitem a byddwn yn eich arwain drwy'r broses. Mae gan Blodwen bolisi dychwelyd 14 diwrnod - yr oll sydd angen i chi ei wneud yw amgâu copi o waith papur gwreiddiol yr archeb gyda'r eitem yn ei chyflwr gwreiddiol a heb ei defnyddio. Disgwylir i eitemau o'r Fferyllfa neu'r Pantri gael eu dychwelyd gyda'r sêl heb ei thorri. Anfonwch bob eitem i'n cyfeiriad. 
Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma i weld Polisi Dychwelyd llawn Blodwen.

Beth yw telerau dosbarthu Blodwen?
Os yw'r eitem ar gael, bydd pob archeb yn cael ei hanfon o fewn 24 awr (48 awr dros y penwythnos) a dylai gyrraedd cwsmeriaid o fewn 3-7 diwrnod gwaith. Os nad yw'r eitem ar gael, bydd Blodwen yn rhoi gwybod i chi am yr oedi a bydd yn anfon yr eitem cyn gynted â phosibl. Cewch wybod y gost ddosbarthu wrth archebu.
Am ragor o wybodaeth am ein holl gostau dosbarthu, cliciwch yma i weld Polisi Dosbarthu llawn Blodwen.

A yw'r prisiau yn cynnwys TAW?
Mae'r holl brisiau ar ein gwefan mewn punnoedd sterling ac yn cynnwys TAW. Os yw'ch archeb yn cael ei hanfon i wlad o fewn yr Undeb Ewropeaidd yna bydd eich bil yn cynnwys TAW. Os yw'ch archeb yn cael ei hanfon y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ni fydd yn rhaid i chi dalu TAW, ond bydd angen i chi dalu ffioedd tollau a mewnforio eich gwlad pan fyddwch yn derbyn eich pecyn.

Ydych chi'n lapio os yw'n eitem anrheg?
Nid fel y cyfryw. Ond mae'r holl eitemau a werthir gennym wedi'u lapio hyfryd yn ein deunydd pecynnu arbennig. Yn unol â'n polisi amgylcheddol, mae ein holl ddeunydd pecynnu wedi'i wneud o ddeunyddiau a ailgylchwyd, pan fo hynny'n bosibl. Caiff ein holl ddeunyddiau eu hargraffu yng Nghymru er mwyn arbed adnoddau a chostau cludo.

Pam ei bod yn cymryd cymaint o amser cyn cael rhai eitemau?
Caiff ein holl gynhyrchion eu gwneud gan grefftwyr lleol sy'n golygu eu bod yn unigryw felly mae angen cymryd amser a llawer o ofal i'w creu. Dyma'r rheswm pam mai dyddiadau ac amseroedd dosbarthu bras a roddir hefyd. Mae ein dyled yn fawr i'n crefftwyr.

Pam na allaf brynu'r union eitem a welaf ar y wefan?
Gan fod pob cynnyrch wedi'i wneud â llaw, mae pob un yn unigryw.
Ni allwn warantu y bydd y cynhyrchion y byddwch yn eu derbyn yn union yr un fath a'r rhai a welir ar y wefan a phan fo eitem wedi'i gwneud o ddeunyddiau clasurol, rydym yn cadw'r hawl i ddefnyddio tecstilau a lliwiau gwahanol.

Beth os wyf yn archebu cynnyrch clasurol a'i fod wedi colli ei liw neu wedi'i ddifrodi?
Yr hyn sy'n arbennig am ddarnau clasurol yw eu bod yn hen ac wedi'u defnyddio. Mae Blodwen yn ymdrechu i gynnig darnau clasurol prydferth sydd mewn cyflwr da bob amser. Pan fydd unrhyw amherffeithrwydd, byddwn yn nodi hynny ar y tudalennau perthnasol.

Oes gennych chi siart maint safonol?
Oes, cliciwch yma i weld Siart Mesur Blodwen.

A yw eich cynhyrchion bwyd yn cynnwys alergenau?
Mae holl gynhyrchion bwyd Pantri Gwledig Blodwen wedi'u paratoi'n ofalus mewn cegin lân lle na cheir cnau nac ôl cnau. 

A yw eich Cynnyrch Fferyllol Cosmetig Organig yn cynnwys parabenau?
Nid oes unrhyw barabenau yng Nghynnyrch Fferyllol Cosmetig Organig Blodwen - nid oes petrocemegion, sylffadau, persawrau synthetig, lliwiau synthetig, T.E.A, D.E.A, Glycol, Silicôn, na PEG ynddynt. Mae ein holl gynhyrchion wedi'u gwneud yn lleol yng Nghymru, wedi'u cymeradwyo gan Feddyg Llysiau a heb eu profi ar anifeiliaid. Rydym wedi ein hardystio hefyd gan QWFC - y Corff Ardystio Bwyd Cymreig o Ansawdd.