Amdano Blodwen

MANIFFESTO BLODWEN
EIN SYNIADAU, EIN CREDOAU A'N GOBEITHION

Mae Blodwen yn ymrwymedig i warchod ac adfywio sgiliau gwledig traddodiadol a hyrwyddo crefftwyr.

Gyda'r pwyslais ar gyfuno cynllun cyfoes gyda sgiliau a thraddodiadau a drosglwyddwyd drwy'r cenedlaethau, yn ogystal â phwysigrwydd 'prynu'n lleol', nod BLODWEN yw helpu i sicrhau adfywiad gwirioneddol, gan gyfrannu at gymunedau gwledig wrth iddynt gynnal eu ffordd o fyw a'u bywoliaeth.

Cred Blodwen mewn talu am ansawdd - gwobrwyo crefftwyr am eu dawn i gynhyrchu nwyddau wedi'u gwneud â llaw, prydferth ac unigryw - eitemau etifeddol a drysorir am byth

Mae Blodwen yn frwdfrydig dros Gymru, gwlad ag iaith, diwylliant a thraddodiad hynafol ond eto'n fodern sy'n parhau i ffynnu a chael eu dathlu.  Rydym yn ymrwymedig i sicrhau darpariaeth ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg ym mhob agwedd ar ein cynhyrchion a'n gweithrediadau.

Mae Blodwen yn awyddus i feithrin a datblygu ymdeimlad o gymuned lle mae unigolion yn cydweithio i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dyna pam bod ein holl gynhyrchion yn cael eu gwneud yng Nghymru gan grefftwyr lleol, sy'n aml yn gweithio ar y cyd.

Mae Blodwen yn ymrwymedig i ddathlu cefn gwlad a'i draddodiadau. Mae gennym barch mawr tuag at ei rythmau naturiol, ei dymhorau a'i gynhaeaf.

Mae Blodwen yn osgoi ffermio diwydiannol, carthu ar y môr, bwydydd cyflym a chynhyrchu mewn swp.

Mae Blodwen yn edmygu sefydliadau llawr gwlad sy'n galluogi cymunedau i ffynnu.  Rhannwn werthoedd Merched y Wawr*, rydym yn falch o Urdd Gobaith Cymru* a dathliadau diwylliannol yr Eisteddfodau, a chefnogwn Glybiau Ffermwyr Ifanc. Mae'n amser ail-ddarganfod yr ymdeimlad o berthyn i'r sefydliadau hyn a mentrau gwych eraill

Mae athroniaeth Blodwen yn un syml sy'n dychwelyd i fyd natur, gan wneud a thrwsio, chwilota a darganfod

Dim ond cynhyrchion a wnaed yn lleol y mae Blodwen yn eu gwerthu, gan ein bod bob amser yn ystyried ein hôl troed carbon. Defnyddiwn gynhyrchion organig pan fo hynny'n bosibl. Mae ein holl ddeunydd pecynnu wedi'i wneud o ddeunyddiau eildro, a wnaed yng Nghyrmu.

Mae Blodwen yn addo cynnig nwyddau wedi'u gwneud â llaw, hardd a wneir yn draddodiadol o adnoddau naturiol, lleol. Y cyfan a wnawn yw ychwanegu ychydig o arddull a dyluniad cyfoes, ac ychydig o dechnoleg i'ch galluogi i fwynhau gwerth canrifoedd o grefftwaith, wedi'i ddosbarthu i'ch drws.

Dymunwn hapusrwydd i chi wrth eu derbyn

BLODWEN - YN DOD A FFORDD O FYW Y CREFFTWR I'CH FFORDD CHI O FYW

Nodiadau :
* Merched Y Wawr - y sefydliad yng Nghymru sy'n cyfateb i'r Women's Institute
* Urdd Gobaith Cymru - menter genedlaethol i bobl ifanc Cymru
* Eisteddfodau - Gwyliau diwylliannol blynyddol a gynhelir ledled Cymru sy'n arwain at yr Eisteddfod Genedlaethol, uchafbwynt y calendr Cymreig

Nodyn gan y SEFYDLWYR

Denise Lewis
Ganwyd Denise Lewis yng Nghastell Newydd Emlyn, Ceredigion. Mae'n siarad Cymraeg ac yn fam i ddau o blant. Mae'n rhannu ei hamser rhwng Llundain ac Aberporth, Bae Aberteifi, Gorllewin Cymru.

Caryl Terlezki
Ganwyd Caryl Terlezki yn Aberystwyth a threuliodd ei phlentyndod yng Nghaerdydd. Mae'n rhannu ei hamser rhwng Brighton ac Aberporth, Bae Aberteifi, Gorllewin Cymru.

"Diolch am ymweld â BLODWEN .
Rydym yn falch o'n cynhyrchion.
Rydym yn falch o'r hiraeth y maent yn ei greu
Mae gennym barch mawr tuag at y crefftwyr sy'n parhau i warchod meddylfryd a sgiliau cefn gwlad, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth.
Ac mae gennym gariad mawr tuag at y lle hwn.
Ein gobaith, wrth i chi ddod i adnabod a charu BLODWEN, yw y bydd gennych chithau gariad mawr tuag ato hefyd."

 

Mae Blodwen Yn Diolch :

Afon Solutions - ein 'geeks' rhagorol
Joby Barnard
Andrea Miller,Mu a Duncs Davies
Bethan Rhys Roberts
Jann a Tony Tucker
Joe a Sophie - Mojo
Kristen Peres a Tom
Anthony Foley
Mandy a Sian Tucker a'r bois
Cheryl a Sophie Thom
as
Nigel Jones
Sean Lewis
Lowri Ap Robert - Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Archif Llyfrgell Cenedlaethol Cymru
Gyd o'r staff yn yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol, Drefach Felindre yn enwedig Keith
Mathew Davies ag Elen Phillips - Amgueddfa San Ffagan
Raymond, Diane a'r staff i gyd ym Melin Teifi, a'r melinau eraill yn Nyffryn Teifi
Mary Beth Parker - National Magazine Company a'r newyddiadurwyr i gyd sydd wedi ein cynnal
Elenor Reynolds
Y tim yn Prysg
Clare a David Hieatt
Geraint Jones yn Efrog Newydd, Eleanor Harris ag Ian Williams - Busnes Rhyngwladol Cymru
Lillian Bevan - Sain
Alex Denoon - Lawford, Davies a Denoon
Gwasg Gomer, Gwasg Parthian a Gwasg Gregynog
Diolch arbennig i Lyfrgell Cenedlaethol Cymru
I ein teulioedd oll,ffrindiau ac yn enwedig i Mark a Phil am eu cymorth cyson
I'r cyflenwyr a chrefftwyr bendigedig - Diolch